Cerrig Beddi a Chofebion

Cofebau wedi’u crefftio gyda gofal a pharch

Silhouette of a person sitting and hammering a piece of wood on a workbench.

Yma i helpu

Gallwn greu siap a maint pwrpasol i’ch dewis, cysylltwch â ni i drafod.

SEGMENTED ARC

OGEE

Silhouette of a person sitting and playing a guitar inside an arched window.
Silhouette of a person sitting and reading a book or device against a dark background.

FLAT ELLIPSE

SQUARE

Silhouette of a person sitting in a contemplative pose inside a dark archway or doorway.
Silhouetted figure sitting on a bench inside a rounded arch window

FULL ARC

HIGH ELLIPSE

Silhouette of a person sitting on a bench, fishing with a fishing rod.
Silhouette of a person sitting on a bench in a dark, rainy environment with a full moon in the sky.
Silhouette of a person sitting on a bench, reading a book under an archway.
Silhouette of a person sitting on a bench, reading a book, against a dark background.

TUDOR ARC

CHECKED OGEE

Yma i gyd weithio gyda’n cwsmeriaid i sicrhau fod pob teyrnged personol yn cael ei wireddu.

Mewn cyfnod anodd, ‘rydym yma i’ch helpu i greu teyrnged barhaol i’ch anwylyd. Mae pob cofeb yn adrodd stori bywyd trwy ddewis deunyddiau, geiriau ac ysgyrthu’n oflaus. ‘Rydym yma i’ch arwain drwy pob cam o’r broses ac yn deall y pwysigrwydd o gyfuno ansawdd a fforddiadwy.

Cerrig Beddi a Chofebion

‘Rydym yn dylunio a chreu’r cerrig beddi i archeb yn ein gweithdy drwy gyd weithio efo’ch dymuniad.

Arysgrifau Personol

Mae’r arysgrifau wedi’u hysgythru’n ofalus i adlewyrchu bywyd, cymeriad a chof eich anwylyd. Gallwn eich arwain i ddewis geiriad, ffontiau a threfniant.

Gosod yn Broffesiynol

Mae ein tîm profiadol yn gosod yn broffesiynol gyda gofal a pharch, gan gydymffurfio a holl reolau a safonau’r fynwent.

Welsh slate headstone with natural finish edges

Carreg Goffa o Lechan

Llechan Gymreig

Mae harddwch naturiol y lechan Gymreig yn gefndir gwych ar gyfer cerfiadau manwl.

Gyda apel esthetig unigryw mae gan y lechan Gymreig sawl mantais yn cynnwys ôl troed amgylcheddol isel oherwydd ffynonellau lleol, gall wrthsefyll tywydd garw ac mae’n hawdd i’w chynnal a’i chadw.

Welsh Dark Blue Grey
o chwarel Cwt y Bugail,
Blaenau Ffestiniog, Gogledd Cymru.

Welsh Hard Grey
o chwarel y Penrhyn,
Bethesda, Gogledd Cymru.

Gravestone of Mary Elizabeth Matthews with her birth and death dates, and information about her family and husband's resting place.

Carreg Goffa o Galchfaen

Calchfaen

Mae calchfaen yn cael ei ganmol am ei harddwch naturiol, a chryfder i wrthsefyll tywydd garw.

Mae lliw meddal a thawel Calchfaen Nabresina yn creu teimlad o heddwch a symlrwydd, perffaith ar gyfer cofebfeini.

Gyda lliw glas lwyd mae’r Celtic Kilkenny yn cydweddu’n gytun gyda’r lechen Gymreig, ac yn hawdd i’w chynnal a chadw.

Celtic Kilkenny Limestone
o chwarel Kilkenny,
Iwerddon.

Nabresina Limestone
o chwarel yng Ngogledd yr
Eidal.

RHOI TEYRNGED DRWY GREFTWAITH

Cofebion ag Ansawdd - Gwneud i Archeb - Gosod yn broffesiynol

Dewis y gorau i anrhydeddu pob atgof

WELSH DARK BLUE GREY
Chwarel Cwt y Bugail, Blaenau Ffestiniog

WELSH HARD GREY
Chwarel y Penrhyn, Bethesda

CELTIC KILKENNY LIMESTONE
Chwarel Kilkenny, Iwerddon

Close-up of Nabresina Limestone a light coloured stone with subtle texture and pattern. LLD Slate Ltd

NABRESINA LIMESTONE
Gogledd Eidal

Mae pob cofeb wedi’i gwneud gyda gofal a pharch yn ein gweithdy gan ddefnyddio cerrig naturiol o ansawdd gorau. Boed yn chwilio am garreg traddodiadol neu unigryw, gyda crefftwaith arbenigol gallwn siapio, ysgyrthu a gosod eich cofeb yn unol a’ch dymuniad i greu teyrnged bersonol i ddathlu bywyd anwyliaid.

Rydym yn falch o gydweithio gyda seiri maen dros y wlad, ac yn hapus i argymell gweithwyr proffesiynol sy’n arbenigwyr mewn cerrig coffa gan greu cerfiadau manwl a hardd i ategu pob cofeb unigryw.